Scroll

Amdanom ni
Sefydlwyd y Strand ym 1973 gan frawd a chwaer, Glyn a Megan Williams. Mae’r busnes dal yn nwylo’r teulu ac yn parhau i gynnig gwasanaeth gwyliau ar gyfer ein cwsmeriaid, hen a newydd.
Mae’r parc ei hun wedi’i leoli ym mhentref lan y môr Y Benllech, gyda golygfeydd godidog o draeth Benllech, Traeth Coch, Llanddona, Y Gogarth, Ynys Seiriol a Pharc Cenedlaethol Eryri. Rydym cwta 300 medr o ganol y pentref, sydd gyda siopau, bwytai, siopau tecawê, traethau a Llwybr Arfordir Cymru.
Mae rhan fwyaf o’n carafanau dan berchnogaeth breifat, gyda dwy garafán rydym yn ei llogi.
Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y tab Llogi, gallwch wneud ymholiad ar y tab Ffurflen Bwcio.